P-05-1007 Uno Yr Hôb a Chaergwrle i greu ward dau aelod yn Sir y Fflint

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David John Healey, ar ôl casglu cyfanswm o 282 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Adroddiad Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn argymell uno Kinnerton Uchaf a’r Hôb i greu ward dau aelod a bod Caergwrle, Llanfynydd a Threuddyn hefyd yn cael eu huno i greu ward dau aelod. Mae’r ail gynnig yn gwbl newydd ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad ar ei gyfer.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gan gymunedau Yr Hôb a Chaergwrle hen hanes o weithio gyda'i gilydd ac maent yn cael eu hystyried yn un anheddiad bob ochr i Afon Alyn. Mae pobl ledled y byd yn gwybod am yr ymadrodd 'Live in Hope, Die in Caergwrle'. Mae'r ysbryd cymunedol rhwng y ddau bentref wedi chwarae rhan hanfodol wrth roi cefnogaeth i drigolion bregus yn ystod y pandemig Covid-19 a bydd yn hanfodol wrth adeiladu gwytnwch cymunedol ar ôl Covid-19. Mae'r trefniadau etholiadol arfaethedig yn bygwth tynnu'r gymuned i gyfeiriadau gwahanol a thanseilio cydlyniant cymdeithasol amlwg ar adeg dyngedfennol. Rydym yn annog y Senedd i roi pwyslais sylweddol ar gydlyniant cymdeithasol yn yr achos hwn wrth bennu ffiniau wardiau yn y dyfodol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Alun a Glannau Dyfrdwy

·         Gogledd Cymru